Bod yn egnïol gartref

Mae’n haws nag yr ydych chi’n meddwl

Y lefel o weithgarwch corfforol a argymhellir yw 75 i 150 munud o weithgarwch dwysedd egnïol neu gymedrol yr wythnos. Gall unrhyw fath o weithgarwch dyddiol fod yn weithgarwch corfforol, ac mae gwahanol ffurfiau, dwysedd ac amlder iddo. Er enghraifft, gellir cymysgu sesiynau byr o ymarfer corff dwys, fel dosbarthiadau dawnsio cyflym, gyda gweithgarwch dyddiol cymedrol, fel mynd am dro neu nofio. Y prif nod yw ei wneud yn rheolaidd. Dechreuwch yn araf a chynyddwch yn raddol fel y byddwch yn fwy tebygol o ddal ati.

Mae gan weithgarwch corfforol lawer o fanteision i’ch iechyd a’ch lles a dyna pam y caiff ei annog gymaint. O leihau’r perygl o glefyd y galon a’r ysgyfaint, poen yn y cymalau a’r cefn neu rai mathau o ganser, mae hefyd yn eich helpu chi i deimlo’n well ynoch eich hun. Mae’n hysbys bod bod yn egnïol yn helpu i wella iechyd meddwl, cwsg ac yn lleihau teimladau o straen. Mae cynnwys symudiadau hawdd yn eich bywyd o ddydd i ddydd, fel mynd am dro cyflym dros ginio, yn golygu y gallwch wneud i’ch symudiadau weithio i chi, ac rydych yn fwy tebygol o ddal ati.

People playing football

Nid oes angen offer ffansi ar bob math o ymarfer corff, na neilltuo oriau o’ch diwrnod chwaith. P’un a yw’n ddosbarthiadau ar-lein, ymarferion corff, defnyddio offer a wnaed gartref neu chwarae gyda’r plant neu’r anifeiliaid anwes, neu fynd i fyny ac i lawr y grisiau, garddio neu ddawnsio yn eich ystafell fyw. Mae popeth yn cyfrif tuag at eich cyfanswm a argymhellir.

Mae Bant â Chi yma i’ch helpu chi i ddod o hyd i symudiad sy’n addas i chi. Rhowch gynnig ar ein cwis i ddod o hyd i weithgareddau sy’n diwallu eich anghenion a’ch dymuniadau.  O ddosbarthiadau y gallwch eu gwneud gartref, i’ch Park Run neu glwb hwyl teuluol agosaf, gydag argymhellion a syniadau ar sut i fod yn egnïol bob dydd.

Want to keep updated?