Sgidiau Symud

Mae unigolyn yn disodli ei sodlau uchel am esgidiau hyfforddi cyfforddus, sy'n ffitio'n dda

Symudiad (‘movement’) i newid y ffordd rydyn ni’n meddwl am ddillad gwaith

Beth ydy Sgidiau Symud?

Mae Sgidiau Symud yn symudiad i newid y ffordd rydym yn meddwl am ddillad gwaith. Mae gweithleoedd actif yn arwain at bobl hapusach ac iachach sydd yn ei dro yn arwain at fwy o greadigrwydd, gwell datrysiadau i broblemau a gwell cynhyrchiant. Rydym wedi ymuno â’r symudiad Sgidiau Symud i wneud gwisgo esgidiau cyfforddus yn y gweithle yn rhywbeth arferol, nid yr eithriad.

Faint ohonom sy’n gwisgo esgidiau cyfforddus i gyrraedd y gwaith ac yna’n newid i’n esgidiau ‘smart’ neu yn mynd â’n ‘trainers’ gyda chi i’r gwaith a’u gwisgo wrth fynd am dro amser cinio ac yna newid yn ôl eto?

Dychmygwch fyd lle nad oes rhaid i chi! Lle mae pawb yn gwisgo eu hesgidiau cyfforddus ac yn teimlo’n hapus ac yn hyderus i symud mwy yn eu ffordd eu hunain – mae’r byd hwnnw’n dod gyda Sgidiau Symud!

Sut mae Sgidiau Symud yn gweithio? 

Mae’n syml:

– Gwneud newid bach i wneud gwahaniaeth mawr

– Anogaeth i Symud Mwy yn eich diwrnod gwaith

– Rhoi caniatâd i chi wisgo esgidiau cyfforddus y gallwch symud yn rhwydd ynddynt (gallai hyn fod yn esgidiau ‘fflat’ – beth bynnag rydych chi’n gyffyrddus ynddo sy’n eich helpu i symud mwy)

– Dod o hyd i’r ffordd sy’n eich siwtio chi i symud, bob dydd – cerdded,  ar olwynion, neu wthio – gallwn ni gyd ddod o hyd i ffordd

– Dweud wrth bobl pa mor wych rydych chi’n teimlo wrth symud a’r holl fuddion rydych chi’n eu profi

– Gwahodd eraill i ymuno

Lle ddechreuodd hyn?

Dechreuodd y symudiad ‘Active Soles’ ym Manceinion, pan gafodd dau arweinydd o fewn y Cyngor sgwrs ynghylch pam eu bod yn teimlo’r angen i wisgo esgidiau anghyfforddus i’r gwaith er mwyn teimlo’n broffesiynol. Sylweddolon nhw fod hon yn broblem yr oedd llawer o bobl yn ei hwynebu, ac fe benderfynon nhw wneud rhywbeth am y peth.

Gallwch ddarllen am yr hanes ym Manceinion yma #activesoles

Ers hynny, mae’r symudiad wedi tyfu i gynnwys pobl o bob cwr o’r byd.

Sut allwch chi gymryd rhan?

Annog eich timau Adnoddau Dynol a thimau Cyfathrebu i gymryd rhan, neu mewn gwirionedd, cael pawb i gymryd rhan. Mae’n siŵr bod rhai wedi mabwysiadu y ffordd hyn yn gynnar ac eisoes yn gwisgo eu hesgidiau cyfforddus i’r gwaith – os ydych chi’n un ohonyn nhw, helpwch i ledaenu’r neges a dylanwadu ar eich cyfoedion! Mae angen i hyn fod yn rhan o ddiwylliant eich sefydliad, nid ymgyrch un wythnos.

Mae Prifysgol Met Caerdydd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, a Chyngor Caerdydd i gyd wedi cofrestru. Rydym hefyd yn gweithio gyda busnesau a sefydliadau i greu amgylchedd mwy cefnogol i bobl sydd am wisgo esgidiau cyfforddus i weithio.

Rydym yn gofyn i arweinwyr busnes ledled Caerdydd a’r Fro i roi caniatâd i’w staff wisgo sgidiau symud i’r gwaith a’u hannog drwy arwain y ffordd.

Ystyriwch yr holl fuddion o wisgo esgidiau cyfforddus:

– Cael mwy o gyfarfodydd cerdded / wrth symud.

– Mae’n symudiad cynhwysol, ac yn ymwneud â symud mewn ffordd sy’n gweithio i chi – does dim rhaid cerdded pellter marathon!

– Ewch allan amser cinio, i gerdded, ar olwynion neu wthio – teimlwch eich bod wedi’ch ysbrydoli gan eich sgidiau symud

– Adeiladwch rhywfaint o symud i mewn i’ch cyfarfodydd grŵp / cyfarfodydd bwrdd, gallai fod mor syml â symud o gwmpas yr ystafell gyfarfod neu hyd yn oed yn well cymryd seibiant symud y tu allan

Anfonwch rai lluniau ohonoch chi, eich cydweithwyr a’ch timau yn cymryd rhan ac yn gwisgo eich sgidiau symud. Tagiwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol a defnyddiwch #SgidiauSymud #ActiveSoles

Cysylltu â ni

Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â’r symudiad Sgidiau Symud, cysylltwch â ni i gofrestru eich sefydliad – movemorecardiff@cardiffmet.ac.uk

Gyda’n gilydd, gallwn newid y ffordd rydyn ni’n meddwl am ddillad gwaith a chreu dinas iachach a mwy actif! Beth am Symud Mwy Caerdydd?

 

Want to keep updated?

Join us on social media